Byddem wrth ein bodd yn eich croesawu i’r Tîm anhygoel yn Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr
Mae Freedom Leisure yn un o’r ymddiriedolaethau hamdden elusennol mwyaf yn y DU, yn rhedeg dros 100 o gyfleusterau hamdden gan gynnwys theatrau a safleoedd treftadaeth.
Rydyn ni’n cyflogi dros 5,000 o staff llawn amser a rhan amser, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gweithio’n agos i’w cartrefi, yn eu cymuned leol.
Pam Dod i Weithio yn Ein Canolfan
Cyrraedd eich uchelgeisiau a chael swydd sy’n gweddu’ch ffordd o fyw
Mae amrywiaeth eang o rolau yn ein canolfannau a’n safleoedd ac mae gan nifer o bobl fwy nag un swydd, rhai mewn lleoliadau gwahanol, sy’n eu galluogi i fwynhau amrywiaeth yn eu gwaith. Mae ein staff yn dilyn patrwm oriau amrywiol; o 1 awr hyd at llawn amser, naill ai’n barhaol neu’n achlysurol. Mae Freedom Leisure yn ddigon mawr i allu cynnig buddion i’n staff, hyblygrwydd yn eu gwaith ac amrywiaeth eang o gyfleoedd, hyfforddiant a sicrwydd. Mae’r dewisiadau’n niferus ac yn amrywiol; rhoddir cyfle i ddysgu sut i gynnal gwersi nofio, neu gallant ddysgu am ffitrwydd, dosbarthiadau stiwdio, marchnata, arlwyo, arweinyddiaeth, a llawer mwy. Rydyn ni’n rhoi’r adnoddau a’r profiad hanfodol i ddatblygu’ch gyrfa ymhellach.
Ymdeimlad eich bod yn chwarae rôl ganolog yn eich cymuned
Mae cymuned yn bwysig i ni ac rydyn ni’n canolbwyntio ar ddarparu cyfleusterau hamdden, chwaraeon a chymunedol fforddiadwy a hygyrch i bawb yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a gyda’n gilydd, rydyn ni’n gweithio i ddarparu’r hyn sydd ei angen, pan fo’i angen a hynny ar gost sy’n realistig i gynifer o bobl â phosibl. Mae hamdden gymunedol yn golygu llawer mwy na darpariaeth ffitrwydd a champfa. Mae ein staff yn elfen hanfodol o’n cynnyrch a’n gwasanaethau - mae pawb yn bwysig!
Wneud ffrindiau am oes
Mae gweithio i Freedom Leisure yn golygu eich bod yn rhan o dîm ehangach ac mae’n golygu hefyd bod pawb yn chwarae rhan hanfodol yn ein cynnyrch a’n gwasanaethau. Mae ein staff yn falch o weithio i ni, maen nhw’n hoffi’u cydweithwyr ac yn mwynhau’u rolau; rydyn ni’n gwybod hyn am ein bod ni’n gofyn iddyn nhw.
Ymunwch â thîm gwych
Rydyn ni’n gwrando ar ein staff ac roedd 92% o’n staff newydd wedi dweud y byddan nhw’n argymell i eraill ddod i weithio gyda ni. Mae gan bob aelod o’n tîm rôl sy’n cyfrannu at y gwaith o ddarparu profiadau gwych i’n holl gwsmeriaid, boed hynny’n swydd rheng flaen yn un o’n safleoedd, yn swydd gymorth mewn safle neu’n swydd ganolog.
Y Mathau o Rolau Rydym yn Eu Cynnig?
Rheolaeth
Hyfforddwyr Ffitrwydd
Gwerthu a Marchnata
Achubwyr Bywyd ac Athrawon Nofio
Gwasanaethau Cwsmer
Arlwyo a Lletygarwch
Gweithrediadau'r Ganolfan
Rheoli Cyfleusterau
Gweinyddiaeth
Ymunwch â ni heddiw
Mae sawl rôl wahanol ar gael gennym ar hyd dros 100 o ganolfannau ledled y DU.
Cymorth gydag Ymgeisio
Rydym wedi llunio canllaw byr ar yr hyn sydd angen i chi ei wneud yn y cais a’ch cyfweliad er mwyn sicrhau eich bod yn dilyn y camau cywir.
Apply now to join our team
Mae sawl rôl wahanol ar gael gennym yn ein canolfan, i weddu amrywiaeth o sgiliau. Ymunwch â'n tîm gwych a chyfeillgar, heddiw!
Cwestiynau Cyffredin
Na, mae gennym nifer o gynlluniau aelodaeth gwych, ond gallwch hefyd dalu wrth ddefnyddio.
Ydi, mae gennym sesiynau nofio i’r cyhoedd bron bob dydd, ond cewch fwy o fanylion yn yr amserlen.
Mae’r gampfa fodern ar agor rhwng 6.30-21.30 dydd Llun i ddydd Iau, 6.30-21.00 dydd Gwener a 9.00-17.00 ar benwythnosau.
Mae gennym faes parcio mawr, sy’n cael ei redeg gan y cyngor lleol; rhagor o fanylion ar gael yma. Caniateir parcio am ddim am 2 awr ar ôl 16:00, dewch heibio’r dderbynfa i gasglu tocyn.
Ydym, mae gennym dros 60 o ddosbarthiadau yr wythnos gydag rhaglen amrywiol gan gynnwys Les Mills. O Bodypump a Metafit i Aqua, mae rhywbeth at ddant pawb ac mae’r tîm elît o hyfforddwyr wrth law i’ch helpu chi ar eich taith.
Ar gyfer ymarferion grŵp gallwch ddefnyddio ap symudol MyWellness neu galw 01978 297300. ‘Sdim angen cadw lle i ddefnyddio’r pwll.
Dim eto, ond fe ddaw cyn bo hir! Gwyliwch y lle hwn.
Ydyn, rydym yn cynnal dosbarthiadau Dysgu Nofio i bawb o bob gallu. Holwch yma.
Gallwch, nid ydym yn bell iawn o Orsaf Fysiau Wrecsam.
Oes, rydym yn gwerthu cynnyrch Costa. Diodydd poeth, diodydd oer, hufen ia, brechdanau, dewis iach a llawer mwy.
Mae’r cynllun aelodaeth iau yn dechrau o 11 oed. Mae pawb yn gallu defnyddio’r pwll ond rhaid cadw at y nifer gywir o oedolion a phlant.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!