Mae gan Bwll Nofio a Chanolfan Chwaraeon Llanfair-ym-Muallt amrywiaeth o gyfleusterau i'r teulu cyfan eu mwynhau yn ystod tymor a gwyliau ysgolion gwladol i blant o bob oed. Darllenwch ymlaen i gael mwy o wybodaeth
Mae partïon Pwll Nofio yn boblogaidd iawn â phlant a gallwch logi'r pwll am awr gyfan o hwyl a sbri a sblasio â'n Hardal Rhedeg mewn Dŵr.
Os byddwch angen mwy o le ar gyfer parti eich plentyn gallwch logi'r neuadd (cost ychwanegol) er mwyn iddynt redeg i gael gwared ar unrhyw egni dros ben a chael y te parti holl bwysig!
Dewis amgen i'w pwll yw ein parti Castell Bowndio! Mae'r castell yn y neuadd chwaraeon a gall eich plant bowndio a chwarae wrth fodd eu calon am awr ac yna, fel uchod, gallant ddefnyddio'r neuadd ar gyfer arlwyo'r parti os bydd angen.
Rydyn ni'n rhedeg detholiad eang o weithgareddau i blant o bob oed trwy gydol gwyliau'r ysgol. Mae'r gweithgareddau sydd ar gael yn cynnwys sesiynau castell gwynt, sgiliau pêl-droed ac ystod o sesiynau nofio am ddim.