Rydym yn parhau i weithio gyda pheirianwyr strwythurol ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys i drwsio’r broblem ar lawr y gampfa yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi. Mae’r gampfa ar y llawr cyntaf ac o ganlyniad, bu’n rhaid i ni gau’r gampfa, y caffi a’r ystafell newid i deuluoedd ar y llawr gwaelod.
Yn y cyfamser, ac i beidio amharu ar ein cwsmeriaid, rydym wrthi’n symud y gampfa i’r cyrtiau sboncen fel bod aelodau’n gallu parhau â rhaglenni’r gampfa. Sylwch fod y pwll, y dosbarthiadau ymarfer corff a gweithgareddau’r neuadd chwaraeon ar agor fel arfer, ynghyd a’r ystafelloedd newid i fechgyn a merched.
Os ydych chi’n aelod, gallwch ddefnyddio canolfannau ‘Freedom Leisure’ eraill Powys. Y rhai agosaf yw Canolfan Chwaraeon Llanidloes, Canolfan Hamdden Caereinion a Chanolfan Hamdden Maldwyn. Gallwch chwarae sboncen yng nghanolfan Maldwyn neu Lanidloes. Hoffwn ymddiheuro am amharu ar eich gweithgareddau hamdden. Gofynnwn i gwsmeriaid gadw golwg ar wefan y ganolfan a’r dudalen Facebook am y diweddariadau.