Wrth i'r haf ddod i ben a'r hydref agosáu, mae'r tymereddau sy’n oeri a'r nosweithiau tywyllach yn gwneud eich canolfan Freedom Leisure leol yn lle perffaith i gymdeithasu, cael hwyl a bod yn fwy actif.
Dechreuwch arni a byddwch yn actif heddiw gyda 3 diwrnod AM DDIM i chi! Cymerwch ran mewn dosbarth ymarfer corff grŵp, oerwch yn y pwll neu ewch ati i gadw'n heini yn y gampfa* - chi biau'r dewis!
BYDD PASYS YN DDILYS RHWNG 6-21 HYDREF YN UNIG. PEIDIWCH AG OEDI, ACTIFADWCH EICH PÀS HEDDIW!
*Gall cyfleusterau a gweithgareddau amrywio yn ôl Canolfan.
Tocyn Treial Campfa 3 Diwrnod – Telerau ac Amodau
- Mae’r tocyn treial yn ddilys am dri (3) diwrnod calendr olynol gan ddechrau o’r ddiwrnod cyntaf o’i ddefnyddio.
- Ni ellir oedi, ymestyn na throsglwyddo dyddiau sydd heb eu defnyddio i ddyddiad arall.
- Mae’r tocyn treial ar gael i gwsmeriaid newydd yn unig ac fe ellir ei ddefnyddio unwaith yn unig fesul person.
- Mae’r tocyn yn rhoi mynediad i gyfleusterau campfa safonol, dosbarthiadau ymarfer corff grŵp a nofio yn ystod oriau agor arferol yn amodol ar amserlenni.
- Gall mynediad at rai gwasanaethau/cyfleusterau fod yn gyfyngedig neu efallai y bydd gofyn am ffioedd ychwanegol yn dibynnu ar y ganolfan. Gofynnwch am fanylion.
- Rhaid i ddefnyddwyr gwblhau Datganiad Ymrwymiad Iechyd cyn ei ddefnyddio gyntaf.
- Mae’r tocyn treial 3 diwrnod ar gyfer defnydd unigol yn unig ac ni ellir ei rannu, ei werthu na’i drosglwyddo. Ni fydd unrhyw ddewis arall mewn arian parod yn cael ei gynnig.
- Mae gan bob canolfan yr hawl i ddiddymu’r tocyn treial ar unrhyw adeg oherwydd defnydd neu ymddygiad amhriodol.