Gallwch arbed hyd at 20% ar Aelodaeth 3 Mis i Fyfyrwyr.

Gallwch arbed hyd at 20% ar Aelodaeth 3 Mis i Fyfyrwyr.

Manteisiwch ar aelodaeth 3 mis i fyfyrwyr am haf i’w gofio yn eich canolfan hamdden leol. Boed yn codi pwysau, nofio, ymestyn neu’n chwysu mewn dosbarth, mae’r cyfan gennym yma i chi gadw’n heini, yn gymdeithasol a theimlo’n grêt – hyn oll mewn un man.

  • Arbedwch hyd at 20% gyda’n cynnig i fyfyrwyr
  • Opsiwn hyblyg am 3 mis – perffaith i’r haf
  • Dewch i gwrdd â phobl newydd a chael eich ysgogi
  • Curwch y diflastod a byddwch ar eich gorau

Dim ymrwymiad hir-dymor. Dim esgusodion. Dim ond egni da, cyfleusterau grêt a haf heb ei wastraffu ar y soffa.

 

Cofrestrwch heddiw am eich haf mwyaf heini eto!

1
2
3

I ddechrau, rhowch eich lleoliad

Beth sydd gan ein Canolfannau Hamdden Cymuned Ganolog i’w Gynnig:

*Telerau ac Amodau:

  • Cynnig ar gael am aelodaeth i fyfyrwyr a brynir rhwng 1 Mehefin 2026 a 30 Mehefin 2026.
  • Cynnig ar gael i fyfyrwyr sy’n prynu aelodaeth campfa am 3 mis yn ystod y cyfnod hyrwyddo yn unig.
  • Rhaid talu’r aelodaeth yn llawn ar adeg prynu.
  • Bydd pris hyrwyddo gyfwerth â 3 mis cyfradd Debyd Uniongyrchol arferol myfyrwyr gyda gostyngiad o hyd at  20%.
  • Enghraifft o bris: £25 y mis x 3 mis = £75, gyda gostyngiad o 20% (£15) = £60 i’w dalu mewn un swm.
  • Gall canran gostyngiad a phris aelodaeth terfynol amrywio yn ôl lleoliad.
  • Mae’r cynnig ar gael i unigolion sy’n 16 oed a hŷn sydd mewn addysg llawn amser ar hyn o bryd.
  • Rhaid dangos tystiolaeth ddilys o statws myfyriwr wrth ymaelodi. Ymhlith yr ID sy’n cael ei dderbyn mae cerdyn ID dilys myfyriwr, cadarnhad UCAS neu lythyr cofrestru coleg/ prifysgol.
  • Deil Freedom Leisure ar yr hawl i wrthod y gyfradd hyrwyddo os nad oes prawf digonol o gymhwysedd yn cael ei ddarparu.
  • Mae aelodaeth yn ddilys am 3 mis yn olynol o’r dyddiad prynu.
  • Nid oes modd trosglwyddo aelodaeth ac ni ellir ei rewi nai estyn.
  • Ni roddir unrhyw ad-daliadau nac ad-daliadau rhannol am gyfnodau o’r aelodaeth na chafodd eu defnyddio.
  • Deil Freedom Leisure ar yr hawl i ddiwygio neu dynnu hyrwyddiad yn ei ôl ar unrhyw adeg heb unrhyw ragrybudd.
  • Mae pob aelodaeth yn amodol ar delerau ac amodau safonol Freedom Leisure  .
  • Ni chaiff unrhyw ddewis ariannol arall na gostyngiad ôl-weithredol eu cynnig.
  • Gall cyfleusterau, dosbarthiadau ac amseroedd agor amrywio yn ôl lleoliad.**

Ar y cyd â’r Telerau ac Amodau hyn, fe’ch cynghorir i wirio gyda’ch canolfan hamdden leol am unrhyw gyfyngiadau eraill cyn prynu.