Mae'n ddrwg iawn gennym, ond bydd y pwll nofio yn Gwyn Evans ar gau rhwng 11-18 Mai ar gyfer gwaith uwchraddio i wella effeithlonrwydd ynni. Bydd y gampfa, neuadd chwaraeon a'r dosbarthiadau ffitrwydd yn rhedeg fel arfer, a bydd y pyllau yng nghanolfannau Byd Dŵr a'r Waun yn parhau i fod ar agor os hoffech chi nofio.
Bydd yr holl wersi nofio yn cael eu canslo a byddwch yn derbyn credyd i fynychu gwers arall mewn unrhyw bwll yn Wrecsam, byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau hyn. Rydym hefyd yn bwriadu cynnal gwersi ychwanegol yn ystod Hanner Tymor mis Mai pan fyddwch yn gallu defnyddio'r credyd ar eu cyfer.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, siaradwch ag un o'r tîm a fydd yn fwy na pharod i helpu.
Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra ac os yw'r gwaith wedi'i gwblhau yn gynt, bydd diweddariadau yn cael eu rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Diolch am eich dealltwriaeth.
Your search has returned 105 more results
Gweld yr holl Ganlyniadau