Nofio Cymru yn dod yn bartner Freedom Leisure i gyflwyno fframwaith Dysgu Nofio llwyddiannus mewn cyfleusterau ledled Cymru
Mae Nofio Cymru, y Corff Llywodraethu Cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer gweithgareddau dŵr yng Nghymru, wedi cryfhau ei berthynas ag un o ymddiriedolaethau hamdden dielw mwyaf blaenllaw’r DU, Freedom Leisure, ar ôl arwyddo cytundeb partneriaeth newydd.