Gwella bywydau drwy hamdden
Freedom Leisure yw un o ymddiriedolaethau hamdden a diwylliannol elusennol nid-er-elw mwyaf blaenllaw'r DU. Rydyn ni’n rhedeg dros 120 o safleoedd hamdden, diwylliannol ac adloniant ledled y DU. Ein cenhadaeth yw ‘gwella bywydau drwy hamdden’.
Freedom Leisure yn ennill Gwobr Menter Cynaliadwyedd Arobryn yng Ngwobrau Nofio Cymru
Mae Freedom Leisure, yr ymddiriedolaeth hamdden elusennol a dielw flaenllaw sy'n rheoli 29 o ganolfannau hamdden ledled Cymru, wedi ennill Gwobr Menter Cynaliadwyedd Nofio Cymru - mewn seremoni wobrwyo ddisglair a gynhaliwyd yng Nghaerdydd dros y penwythnos.
Rydyn ni yma i wella iechyd a lles ein cymunedau
Lawrlwythwch ein Ap
Mae ein Ap yn hwyluso archebu dosbarthiadau a gweithgareddau yn gyflymach ac yn haws nac erioed. Ydych chi eisoes yn aelod neu wedi cofrestru ar gyfer archebu ar-lein? Lawrlwythwch ein Ap nawr! Heb gofrestru eto? Cysylltwch â’ch canolfan leol i gofrestru.
Rydyn ni’n gwella bywydau drwy hamdden
Byddwch yn cael eich croesawu i amgylchedd diogel, llawn hwyl, sy’n rhoi gwerth am arian i’ch helpu i gyrraedd eich uchelgeisiau a’ch dyheadau, beth bynnag fo’ch oedran neu eich statws. Rydyn ni yma i’ch helpu i fod yn iachach ac yn hapusach - ‘Gwella bywydau drwy hamdden’.
Rydyn ni’n gofalu am ein cymunedau a’u hiechyd
Rydyn ni am gefnogi iechyd y genedl a galluogi pobl i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Fel ymddiriedolaeth nid-er-elw, mae cefnogi unigolion a chymunedau i fod yn iachach ac yn fwy ffit wrth wraidd ein holl waith. Rydyn ni’n credu mewn ‘iechyd i bawb o bob oed’; rydyn ni am i’n cymunedau gael hwyl, a theimlo bod croeso iddyn nhw a’u bod yn cael eu cynnwys a’u hysbrydoli i fyw bywydau iachus.
Rydyn ni’n gofalu am yr amgylchedd
Ni yw un o’r ymddiriedolaethau hamdden cyntaf i gofnodi ein Hymrwymiadau Amgylcheddol a Chynaliadwyedd, gan dargedu sero net ar draws ein sefydliad erbyn 2030. Mae’r ymrwymiadau hyn yn dangos y ffocws parhaus sydd gennym ar ein perfformiad amgylcheddol a sut rydyn ni’n bwriadu parhau i adeiladu ar ein llwyddiannau yn y gorffennol.
Rydyn ni’n falch o’n partneriaethau
Mae gennym ymrwymiad i gydweithio â’n partneriaid dibynadwy i ddarparu gwasanaeth hamdden rhagorol sy’n hollbwysig i iechyd a lles y bobl leol.
Rydym am gyflogi! Dewch i ymuno â’r tîm
Mae’r gwasanaethau hamdden yr ydym yn eu cynnig yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr ac yn gwneud gwir wahaniaeth i iechyd a llesiant pobl ar lefel leol iawn. Mae gweithio i Freedom Leisure yn eich galluogi chi i chwarae rôl gadarnhaol, leol iawn, a gwella bywydau drwy hamdden a gwneud gwir wahaniaeth yn eich cymuned.