Mae gan Byd Dŵr Wrecsam rig hyfforddi newydd ar gyfer y byd gwaith newydd na allwn aros i rannu gyda chi!
Mae dosbarthiadau llawr campfa Omnia wedi’u llunio gan arbenigwyr o’r radd flaenaf ar y cyd ag Adran Ymchwil Gwyddonol Technogym. Mae holl raglenni OMNIA wedi’u llunio i wneud cynnydd gan sicrhau fod cyfranogwyr yn symud ymlaen er mwyn cyrraedd eu nodau. Er mwyn sicrhau fod y dosbarthiadau yn addas i amrywiaeth eang o bobl, rydym yn cynnig 3 math o ddosbarth:
Mae rhaglenni OMNIA™ MOVE ar gyfer pobl sydd eisiau mwy o egni yn eu bywyd bob dydd ac sydd eisiau teimlo’n heini a rhydd i symud ym mhob sefyllfa.
Mae rhaglenni OMNIA™ TRAIN ar gyfer pobl sydd am losgi calorïau, hyfforddi fel athletwyr, tynhau’r corff a gwella eu perfformiad corfforol.
Mae rhaglenni OMNIA™ PLAY ar gyfer pobl sydd am aros yn heini a llawn ysgogiad mewn grŵp lle byddant yn cyflawni canlyniadau hirdymor a fydd o les i’w ffordd o fyw.
Gorsafoedd Kinesis
Mae ein cylched gorsafoedd Kinesis yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar Symud Swyddogaethol Greddfol. Mae’r offer yn hawdd i’w defnyddio ac yn cyfuno buddion cryfder swyddogaethol a symlrwydd offer confensiynol. Bydd dechreuwyr ac arbenigwyr yn canfod ffyrdd newydd ac arloesol o gadw eu hyfforddiant yn ffres ac yn heriol.
Archebwch le i gael sesiwn hyfforddi heddiw i weld sut y gall Kinesis weithio i chi.
Mae SKILLMILL™ yn tarddu o brofiad Technogym dros ddwy ddegawd fel cyflenwr offer ffitrwydd swyddogol y Gemau Olympaidd. Dyma’r cynnyrch cyntaf sy’n galluogi athletwyr bob dydd i wella eu Pŵer, Cyflymder, Stamina ac Ystwythder, a mwynhau manteision hyfforddiant chwaraeon proffesiynol mewn modd diogel, dymunol ac effeithiol. Datrysiad unigryw sy’n cynnig amrywiaeth eang o arferion ymarfer corff, i hyfforddi holl systemau egni’r corff a bydd ein haelodau’n dod yn berfformwyr ar y lefel uchaf.
Ymunwch a'n cyiched Omnia i trio'r offer yma heddiw!