Mae Canolfan Hamdden Maldwyn, Y Drenewydd yn falch o chwarae rhan allweddol fel canolfan frechu dorfol trwy roi brechiadau Covid-19 yng ngogledd Powys.
Daeth y ganolfan frechu at ei gilydd trwy bartneriaeth rhwng gweithredwr y ganolfan, Freedom Leisure, Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO).
Rhoddwyd 12,500 o ddosau o’r brechlyn mewn dim ond pum wythnos o Ganolfan Hamdden Maldwyn gydag 1,036 o ddosau’r brechlyn yn cael eu rhoi mewn un diwrnod. Bellach mae brechiadau ail ddos yn cael eu rhoi i bobl a gafodd eu dos cyntaf ym Mis Rhagfyr.
I gefnogi cyflwyno’r rhaglen frechu mae gweithwyr Freedom Leisure ym Mhowys yn cefnogi staff clinigol o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ar y safle, ynghyd â gwirfoddolwyr PAVO a’r lluoedd arfog.
Dywedodd Gwyn Owen, Rheolwr Ardal Freedom Leisure Powys:
“Mae wedi bod yn fraint cydweithio â’n partneriaid Powys a thîm mor ymroddgar wrth i’r brechiad Covid-19 gael ei gyflwyno ledled gogledd Powys. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan, sy’n gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol bob dydd i’n bywydau i gyd ym Mhowys.”
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod y Cabinet ar faterion Pobl Ifanc, Diwylliant a Hamdden:
“Mae’r rhaglen hollbwysig hon yn dangos gweithio a bwriad positif o’r holl asiantaethau sydd ynghlwm. Mae bod yn rhan o adnodd rhaglen frechu dorfol o’r fath yn dangos pa mor bwysig yw cyfleusterau hamdden fel y rhain. Maent yn cynnig lleoedd agored, safonau uchel sy’n cael eu cynnal i barhau i fod yn ‘ddiogel o ran Covid’, ynghyd â pharhau i gefnogi Iechyd ac agendâu amrywiol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Da iawn bawb.”
Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:
“Un o’r pethau rhyfeddol am Bowys yw’r ffordd y mae sefydliadau gwahanol wedi dod ynghyd. Mae’r rhaglen frechu hon wedi bod yn brawf o’r hyn y gellir ei gyflawni pan ddown ni at ein gilydd i gydweithio. Mae’r Bwrdd Iechyd yn hynod o ddiolchgar am gefnogaeth Freedom Leisure i’n galluogi i ddod â brechiadau COVID-19 i gymaint o bobl mor gyflym.”
Dyweddodd Carl Cooper, Prif Swyddog Gweithredol, PAVO:
“Rydym wrth ein bodd o fedru cryfhau ein perthynas gweithiol ymhellach gyda phartneriaid allweddol i gefnogi a hwyluso’r rhaglen frechu dorfol ar draws Powys. Mae’r canlyniadau a’r deilliannau i bobl y mae gwirfoddolwyr a staff wedi eu cyflawni - ac yn parhau i’w cyflawni - yn ysbrydoledig ac yn codi’r galon. Braint yw bod yn rhan o’r rhaglen – rwyf mor falch.”