Canolfan Hamdden Aberhonddu yw'r lle i fynd os ydych yn trefnu parti pen-blwydd i blentyn. Parti Pwll Nofio yw'r hoff opsiwn ond mae gennym opsiynau eraill ar gael hefyd.
parti tegannau gwyllt
Hwyl yn y pwll mawr â chyfarpar chwarae ac ardal rhedeg mewn dŵr mawr pwmpiadwy. Ar gael ar benwythnosau rhwng 2.30pm - 3.30pm. Uchafswm o 50 plentyn ac mae'n rhaid eu bod yn gallu nofio.
Pris: £84.90
parti pwll bach
Mae Partïon Pwll yn y pwll addysgu bach ar gael ar benwythnosau 2.30pm - 3.30pm lle mae'r cafn a detholiad o gyfarpar chwarae ar gael. Gallwch gael hyd at 25 o blant ac oedolion yn eich parti.
Pris: £40.70
parti gwyllt yn y pwll
Yn addas ar gyfer plentyn hŷn a'i ffrindiau. Hwyl yn y prif bwll gyda chyfarpar chwarae. Ar gael ar benwythnosau rhwng 2.30pm - 3.30pm.
Prisiau: £68.00 ar gyfer hyd at 25 o bobl a £73.60 ar gyfer parti o 26-50 o bobl.
Mae polisi derbyn plant y pwll nofio yn berthnasol i bartïon pen-blwydd. Yn y prif bwll mae'n rhaid i blant o dan 4 oed gael oedolyn gyda hwy, ar gymhareb 1 oedolyn i 1 plentyn. Mae'n rhaid i blant rhwng 4 a 7 oed gael uchafswm o 2 blentyn i un oedolyn yn y dŵr. Sylwch ni fydd plant sy'n gallu nofio'n cael mynd ar yr eitem bwmpiadwy. Yn y pwll bach, mae'n rhaid i blant dan 8 oed gael oedolyn gyda hwy, ar gymhareb 2 blentyn i 1 oedolyn
Ces i barti pen-blwydd gwych yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu. Parti hwyl a sbri yn y pwll. Ac felly? Roeddwn i’n dathlu fy mhen-blwydd yn ddeg a thrigain oed. Rwy’n ddall ac roedd rhai o’r gwesteion dros eu pedwar ugain. Cawson ni i gyd hwyl fawr. Partïon i bawb o bob oed.
Margaret
castell gwyllt
Bowndiwch gyda ffrindiau yn stwdio 1 sy'n darparu digon o le i redeg i gwmpas. Ar gael ar benwythnosau 10-1.00am - 12.30pm, 1.00pm - 2.30pm a 3.00pm - 4.30pm.
Pris: £62.30 (yn cynnwys byrddau a chadeiriau ar gyfer eich bwyd eich hunain)
parti chwaraeon
Ar gyfer y plant hŷn, beth am logi'r brif neuadd chwaraeon lle gallwch ddewis o blith y chwaraeon canlynol:
Pris: £28.90 (dewiswch un math o chwaraeon i'r parti cyfan neu rhannwch y neuadd yn ddwy a chewch gymysgedd).
Ar gael y tu allan i oriau agor y Caffi ar gyfer partïon o 10 neu fwy
prydau poeth i blant
Byrger mewn rhôl, byrder caws, talpiau cyw iâr, talpiau llysiau, selsig neu fysedd pysgod.
Caiff y rhain eu gweini gyda sglodion neu daten trwy'i chroen, diod ffrwythau a hufen iâ 'mini-milk' i ddilyn. Mae opsiynau iachach ar gael.
bwffe i blant
Brechdanau, selsig bach, bisgedi ffansi, creision a diod ffrwythau, a hufen iâ 'mini-milk' i ddilyn.
Pris: £5.00 yr un
Gallwch logi ystafell i ddod â'ch bwyd eich hun am £13.20 yr awr.
I holi am bartïon pen-blwydd, llenwch y ffurflen hon a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi cyn bo hir