Mae Freedom Leisure Aberhonddu’n cynnig cyfleoedd iechyd, ymarfer corff a ffitrwydd i wella iechyd a lles yr holl gymuned.
Mae gennym gynlluniau aelodaeth sy’n cynnig gwerth am arian bendigedig. Gallwch ddewis o blith Debyd Uniongyrchol misol neu ddewisiadau lle rydych yn talu am y flwyddyn.
Mae aelodaeth lawn yn rhoi’r manteision canlynol i chi:-
Defnydd diderfyn o’r ystafell ffitrwydd
Dosbarthiadau ffitrwydd diderfyn
Nofio faint a fynnwch
Llogi’r cyrtiau am ddim ar adegau llai prysur (Cewch gadw lle ar y diwrnod)
Blaenoriaeth archebu wyth diwrnod
Archebu ar-lein
Byddwch yn cael mynd i ganolfannau Freedom Leisure eraill fel rhan o’ch aelodaeth
Cysylltwch â ni heddiw a siaradwch ag aelod o’n tîm.
Byddwn yn trefnu cwrdd â chi ar amser sy’n gyfleus i chi a’ch dangos o gwmpas y ganolfan a’r hyn y bydd eich aelodaeth yn ei chynnig i chi.
Byddwn y trafod y cynllun aelodaeth gorau ar eich cyfer ac egluro’r amryw ddewisiadau sydd ar gael. Pa un a ydych yn chwilio am aelodaeth ar gyfer oedolion, teulu, aelodaeth ar y cyd, iau, consesiwn neu nofio’n unig, mae gennym gynllun hwylus fydd at eich dant chi.