dosbarth newydd - sbin cyflym

#FfitrwyddIBawb

January 10 2020

Mae gennym ni ddosbarth Sbin Cyflym newydd yn cychwyn ar ddydd Mercher.

Dydd Mercher 17:30 - 18:00

Sbin

Ymarfer dwysedd uchel yw dosbarth troelli (sbinio) ac mae’n digwydd ar beiriant sefydlog gyda chwylolwyn â phwysau ynddi wedi’i chysylltu â’r pedalau.Beic â gêr sefydlog yw’r canlyniad - mae eich coesau’n symud yn gyson ac mae’n rhaid i chi roi pwysau ar y pedalau i’w harafu. Allwch chi ddim rhoi’r gorau i bedlo ac mae hyn yn golygu bod pob eiliad o’r amser sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio’n dda.

Yr hyn sy’n hwylus am ddosbarthiadau troelli yw eu bod yn caniatáu i feicwyr o bob gallu eu gwthio’u hunain cymaint ag y maent yn dymuno gwneud, yn yr un lle. Felly gall pencampwr Olympaidd hyfforddi ochr yn ochr â beiciwr newydd sbon heb i’r naill amharu ar hyfforddiant y llall.

Mae deialau gwrthiant ar feiciau troelli – felly gall rhywun sy’n seiclo’n gryf droi’r deial i’r eithaf, a gall dechreuwr fod yn fwy pwyllog. Does neb yn cael ei adael, a does neb yn teimlo’n rhwystredig.

effaith uchel / ynni uchel

*** angen bwcio ***

Trwy glicio ar ‘cyflwyno’ rydych yn rhoi caniatâd i ni gysylltu â chi at ddibenion eich ymholiad